P-06-1500 Mae angen arian ychwanegol ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl UNSAIN Castell-nedd Port Talbot
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Fisher, ar ôl casglu cyfanswm o 355 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae UNSAIN Castell-nedd Port Talbot yn gofyn am ddyrannu arian y mae mawr ei angen i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddiogelu gwasanaethau, amddiffyn swyddi, a chadw cymunedau'n ddiogel. Heb yr arian ychwanegol hwn bydd yn rhaid i Gyngor Castell-nedd Port Talbot wneud penderfyniadau ar wasanaethau statudol ac anstatudol, er enghraifft cau llyfrgelloedd, gwasanaethau ieuenctid, amwynderau cyhoeddus, a hefyd diswyddo staff yn orfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Bydd yr holl gyllid ychwanegol a ddyrennir i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi’r bobl ddifreintiedig sy’n byw yn yr ardal y mae’r swyddi a gollwyd yn TATA Steel wedi effeithio arnyn nhw. Mae'r Undebau Llafur a'r Cyngor Lleol yn gweithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol i amddiffyn y gweithlu a bydd unrhyw refeniw ychwanegol yn cynorthwyo partneriaethau ymhellach yn y cyfnod ofnadwy hwn.p-06-
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru